
Yn barod am y genhedlaeth nesaf o fapio ecolegol, mesur gwasanaethau ecosystem a thopograffeg? Gall Spectral Ecology alluogi rheolwyr amgylcheddol, cwmnïau a sefydliadau i wneud penderfyniadau amgylcheddol cadarn a gwneud y mwyaf o'r buddion i bobl a byd natur.
DEALL ECOLEG
DATRYSIADAU INTEGREDIG






HABITAT MAPPING
ECOSYSTEM SERVICES
ENVIRONMENTAL


CYFNOD NEWYDD I ECOLEG
Graddfa fawr. Cydraniad Uchel. Cost-effeithiol. Tri pheth nad ydynt fel arfer yn cyd-fynd mewn mapio ecolegol. Hyd yn hyn.
Gan ddefnyddio'r cerbydau awyr di-griw (UAVs) a'r Lloerennau diweddaraf, a gyda thros ddegawd o brofiad yn datblygu mapio ecolegol sbectrol arloesol a mesur data amgylcheddol, gallwn fapio rhywogaethau unigol, cynefinoedd cyfan, neu olrhain lledaeniad rhywogaethau goresgynnol, am ffracsiwn o bris ymgynghoriaethau traddodiadol.
Rydym yn gweithio ledled Cymru, De-orllewin Lloegr, ac yn genedlaethol.


AMDANOM NI
Sefydlwyd Spectral Ecology gyda'r nod o ddod ag ecoleg, modelu a mapio arloesol - o raddfeydd bach i dirweddau cyfan - o fyd ymchwil i'n cleientiaid ledled y DU, gan gymhwyso egwyddorion trylwyredd academaidd i bopeth a wnawn.
O fapio cynefinoedd ar gyfer asesiadau Cyfnod Dau a monitro a mapio lledaeniad rhywogaethau goresgynnol, i asesu iechyd cnydau, a hyd at adnabod a mapio gwasanaethau ecosystem, gall Spectral Ecology helpu.
Gan ddefnyddio cerbydau awyr di-griw (Dronau) amlsbectrol cydraniad uchel, delweddau uwchsbectrol o loerennau, priodweddau amgylcheddol, a modelau datblygedig, gallwn fapio cynefinoedd, rhywogaethau, a gwasanaethau ecosystem ar gydraniad uchel ar draws graddfeydd digynsail - y cyfan am gostau llawer is na dulliau arolygu traddodiadol yn unig.
Yn fwy na hynny, rydym yn cynnig cyngor pwrpasol ar ddatrysiadau sy'n seiliedig ar natur ar gyfer lliniaru llifogydd sy'n ymestyn y tu hwnt i ddiogelu asedau ac sydd ar flaen y gad yn fyd-eang, yn ogystal â mapio topograffig, mapio amlsbectrol ac arolygon LiDAR a ffotogrametreg.


MAPIO AR GYFER ADEILADU
Yn ogystal â mapio ecolegol, rydym yn cynnig mapio topograffig cydraniad uchel a modelau ffotograffig o safleoedd, gan ddarparu mapiau gweledol ar gyfer monitro cynnydd ar y safle, asesiadau o stociau a chyfaint pridd, a hefyd mapio biomas coed a thunnelliad pren i lywio logisteg clirio tir cyn dechrau ar y gwaith - gan arbed amser ac arian i chi.
MAPIO'R AMGYLCHEDD FOROL
Mae ein hecolegwyr morol yn arbenigwyr ar fapio bywyd tanfor. Yn Spectral Ecology, rydym yn arbenigo mewn mapio manwl o ardaloedd arfordirol a rhynglanwol. Pa un a oes angen i chi fapio gwymon, riffiau, neu ddeall sut mae'r ardaloedd hyn yn storio maetholion, yn amsugno carbon, neu amcangyfrif eu cyfanswm biomas, gallwn helpu.
Gan ddefnyddio technegau sbectrol unigryw a modelu soffistigedig, gallwn asesu gwerthoedd bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem ar gyfer ardaloedd arfordirol ar raddfa fawr. Golyga hyn eich bod yn cael y ddealltwriaeth yn gyflymach, yn fwy fforddiadwy, a chyda chywirdeb llawer mwy na dulliau arolygu hen-ffasiwn.
Os oes angen i chi olrhain newidiadau dros amser, asesu gwymon ar gyfer ei gasglu, neu adnabod cymunedau morol ar gyfer adroddiadau bioamrywiaeth, mae gennym yr offer a'r arbenigedd sydd eu hangen arnoch i wneud penderfyniadau gwybodus, amserol. Cysylltwch â ni i weld beth y gallwn ei wneud i chi.


SUBSCRIBE
Subscribe to our newsletter to always be the first to hear about new services, insights and get the inside scoop on revolutionary ecology.